Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/
Prif Weithredwr GIG Cymru
GrŵpIechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Director General Health and Social Services/
NHS Wales Chief Executive
Health and Social Services Group
Nick Ramsay AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
7 Mehefin 2018
Annwyl Mr Ramsay
Safonau Gwybodaeth a Thechnegol
Yn dilyn fy mhresenoldeb yn sesiwn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 14 Mai, roeddwn yn meddwl y byddai o gymorth pe bawn i'n ysgrifennu atoch i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch datblygu a chyhoeddi safonau gwybodaeth a thechnegol.
Fel rhan o'r strwythur llywodraethu gwybodeg, mae gennym ddau Fwrdd sy'n goruchwylio'r gwaith o osod safonau ar draws Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru.
Mae gennym Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth ddiffiniedig sy'n cael ei goruchwylio gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru. Mae'r broses hon yn sicrhau bod safonau gwybodaeth cenedlaethol newydd neu ddiwygiedig yn cael eu datblygu a'u gweithredu ar draws GIG Cymru, er mwyn sicrhau eu bod mor addas at y diben â phosibl, a bod data yn cael eu casglu'n effeithlon a bod gwybodaeth yn gyson a rhesymegol.
Ar ôl i safon gael ei datblygu, a'i chymeradwyo gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru, mae Hysbysiad Newid Safonau Data yn cael ei lunio sy'n rhoi mandad i'r safon sydd i'w gweithredu gan GIG Cymru. Pan fo hynny'n berthnasol, rhoddir Hysbysiad Dulliau Dadansoddi a Hysbysiad Newid Codau Clinigol i GIG Cymru hefyd sy'n rhoi mandad i'r safonau sy'n disgrifio'r fethodoleg dadansoddi genedlaethol a'r safon codio clinigol y cytunwyd arnynt. Mae'r rhain i'w cael ar-lein yn http://www.nwisinformationstandards.wales.nhs.uk.
Yn achos safonau gwybodaeth newydd sy'n cael eu datblygu i gefnogi gofyniad polisi Llywodraeth Cymru, cyhoeddir hefyd Gylchlythyr Iechyd Cymru i gyd-fynd â hwy. Mae'r rhain wedi cael eu cyhoeddi yn https://llyw.cymru/topics/health/nhswales/circulars/?skip=1&lang=cy.
Ffôn ●Tel 0300 025 1182
Parc Cathays ●Cathays Park Andrew.Goodall@llyw.cymru
Caerdydd ●Cardiff
CF10 3NQ Gwefan ● website: www.wales.gov.uk
Ym mis Chwefror 2018, cytunodd Bwrdd Rheoli Gwybodeg GIG Cymru greu Bwrdd Safonau Technegol Cymru newydd er mwyn sefydlu catalog o safonau technegol a fydd yn caniatáu mwy o integreiddio rhwng systemau iechyd a gofal, a sicrhau eu bod yn gallu rhyngweithredu, ac i gefnogi arloesi lleol a'r defnydd o bartneriaid cyflenwi trydydd parti.
Bydd y Bwrdd newydd, o dan gadeirydd Mark Wardle, Niwrolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn canolbwyntio ar egwyddorion a safonau technegol. Mae ei gylch gwaith yn cynnwys:
- Safonau integreiddio
- Safonau rhyngweithredu
- Safonau datblygu meddalwedd
- Safonau seilwaith
- Safonau seiberddiogelwch
Pan fydd Bwrdd Safonau Technegol Cymru yn cytuno ar safon, caiff Hysbysiad Newid Safonau Technegol ei greu a chyhoeddir Cylchlythyr Iechyd Cymru i gyd-fynd ag ef gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliodd y Bwrdd, sy'n atebol i'r Bwrdd Rheoli Gwybodeg Cenedlaethol, ei gyfarfod cyntaf ar 22 Mai 2018.
Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn rhan o Swyddfa'r Cabinet a chafodd ei sefydlu i gefnogi gwaith trawsnewid digidol ym mhob adran o Lywodraeth y DU. Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi datblygu Egwyddorion Dylunio Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth a Safon Gwasanaeth Digidol:
- Egwyddorion Dylunio Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth - https://www.gov.uk/guidance/government-design-principles
- Safon Gwasanaeth Digidol - https://www.gov.uk/service-manual/service-standard
Yn ei gyfarfod cyntaf, trafododd Bwrdd Safonau Technegol Cymru sut y gellid mabwysiadu
Egwyddorion Dylunio Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth i'w defnyddio ar draws GIG Cymru. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 19 Mehefin pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar fabwysiadu’r Egwyddorion.
Gobeithio bod y llythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ofynnol ichi.
Yn gywir
Dr Andrew Goodall